![]() |
Yr hyn a wnawn ni |
Rydyn ni eisiau i chi gael dweud eich barn
Rydym wedi datblygu sesiwn hyfforddi sy'n egluro sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio yng Nghymru.
Rydyn ni eisiau eich helpu i newid pethau nad ydych yn fodlon arnynt yn eich bywyd. Rydym yn dangos i chi pwy sy'n gallu eich helpu i ddatrys gwahanol broblemau
Pwy ydym ni?
Fy enw i yw Sara Pickard a fi yw Swyddog Partneriaid mewn Gwleidyddiaeth.
Rydw i'n mynd i ysgolion a cholegau ledled Cymru ac yn egluro sut y gallwch gael dylanwad yn y penderfyniadau sy'n cael effaith arnoch. Rydw i'n ceisio dangos bod gwleidyddiaeth ym mhobman. Rydw i wrth fy modd â'm swydd a hoffwn feddwl y gallaf eich ysbrydoli i gymryd rhan a gwneud newidiadau yn eich bywyd.
Ni yw'r swyddogion rhanbarthol ac rydym yn rhoi cyfle i chi gyfarfod eich gwleidyddion lleol. Gallwn, hefyd, ddangos i chi beth arall y gallwch wneud i sicrhau bod gwleidyddion yn gwrando arnoch chi.


















